English

Cartref
Arddangosfeydd
Sgyrsiau, Digwyddiadau a Gweithdai
Cyfnodau Preswyl
Porth Diwylliannol
Cyhoeddiadau
Sut i gyrraedd yma
Tanysgrifiwch i'r restr bostio




O’r 20 – 23 Ebrill 2012, mae Canolfan Grefft Rhuthun yn cynrychioli dau o brif wneuthurwyr Cymru yn SOFA Efrog Newydd (Ffair ‘Sculptural Obects and Functional Art’) 2012, y seramegydd a’r crochenydd Walter Keeler a’r artist tecstilau, Eleri Mills.

Gellir cael mwy o wybodaeth ar yr holl lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol:

I ymweld â Blog SOFA Cymru, cliciwch yma
I weld tudalen Facebook SOFA Cymru, cliciwch yma
I ddilyn SOFA Cymru ar Twitter, cliciwch yma
I weld delweddau SOFA Cymru ar Flickr, cliciwch yma

I weld gwefan swyddogol y ffair Sculptural Objects and Functional Art (SOFA), cliciwch yma



Tebotiau Di-deitl, gwydredd halen


Walter Keeler

Mae fy ngwaith yn cael ei lywio gan fy angerdd am botiau o'r gorffennol, ond hefyd drwy wneud a thanio, yn ogystal â’r byd a'r amseroedd yr wyf yn byw ynddo. Weithiau gallaf wneud pethau defnyddiol syml fel mygiau neu jygiau; ar adegau eraill mae fy ngwaith yn llai syml, yn gwneud galwadau, hyd yn oed yn herio’r defnyddiwr i ymdrin gyda photyn annisgwyl i wneud gorchwyl gyffredin. Rwy'n gobeithio daw peth hiwmor a phleser synhwyrus o’m crochenwaith yn ogystal â’i ddifrifoldeb.


Tirlun I (Landscape I)


Eleri Mills

Llysgennad Cymru Greadigol 2011/13
Artist Gwâdd, Prifysgol Columbia,
Efrog Newydd (Chwef - Ebrill 2012)

Fy ngreddf bob amser yw cofleidio paentio a thraddodiadau tecstilau fel ei gilydd heb orfod cydymffurfio â'r naill na'r llall. Er bod y weithred o luniadu yn ganolog i fy holl waith, rwy’n ymhyfrydu yn harddwch crai fy holl ddeunyddiau - p'un a ydynt yn ffabrig, edafedd, paent neu bapur.

Cynnwys fy ngwaith yw fy mhrif bryder, ac er fod y prosesau wedi amrywio ac wedi esblygu dros y blynyddoedd, mae'r pwnc bob amser wedi’i ddylanwadu’n gyson gan dirwedd canolbarth Cymru a thraddodiad barddol gogoneddus Cymru.

Cefnogwyd presenoldeb Cymru a Chanolfan Grefft Rhuthun yn SOFA Efrog Newydd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru



Am wybodaeth am sgyrsiau, digwyddiadau a gweithdai yn gysylltiedig ag Arddull Japan: Dylunio Cynhaliol, ewch i www.japanseasonwales.com