![]() |
Cartref |
|
|
|
Ar agor yn ddyddiol o 10.00am 5.30pm Mynediad am ddim Parcio di-dâl Croeso i Oriel Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Y mae trawsnewidiad Canolfan Grefft Rhuthun gydag arian Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru yn awr wedi’i gwblhau. Y mae’r ail-ddatblygiad rhyfeddol hwn a gynlluniwyd gan Sergison Bates wedi’i leoli yn yr un fan ag o’r blaen o fewn ei dirwedd ei hun ac y mae’n adeilad deinamig o sinc a charreg bwrw gyda thoeau tonnog yn adlais o Foelydd Clwyd. Mae ynddo dair oriel, chwech stiwdio ar gyfer artistiaid, oriel mânwerthu, gweithdai addysgol a phreswyl, gwybodaeth i dwristiaid a bwyty gyda theras o fewn y cowrt. Cysylltwch â ni Canolfan Grefft Rhuthun, Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1BB F: +44 (0)1824 704774 |
|

Y mae Canolfan Grefft Rhuthun yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych a chyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru